Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn amrywiaeth eang o ddarparwyr a rhanddeiliaid, ac rydym yn awyddus i gael adborth ynghylch a yw'r Datganiad Polisi Buddsoddi a geir yn Atodiad A yn cynnig sylfaen briodol a thryloyw ar gyfer penderfyniadau buddsoddi Medr drwy'r sector addysg drydyddol ac ymchwil gyfan ai peidio.
Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal mewn dau gam.
Nod Cam 1 yw casglu safbwyntiau gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ym mhob rhan o'r sector.
Gwahoddir rhanddeiliaid i gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad drwy ein harolwg erbyn 5pm ar 3 Awst 2026.
Bydd Cam 2 yn canolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu â dysgwyr, ac fe'i cynhelir yn nhymor yr Hydref 2026, ar yr un pryd â dechrau'r flwyddyn academaidd er mwyn helpu i ymgysylltu mewn modd amserol ac ystyrlon.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â BuddsoddiadaMonitro@medr.cymru
Defnyddiwch fotymau llywio'r arolwg i lywio'r arolwg, yn hytrach na botwm ôl eich porwr.
Cliciwch yma i ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd, s'yn esbonio pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi, sut rydym yn ei defnyddio, yr amodau cyfyngedig lle byddwn yn ei datgelu i eraill a sut rydym yn ei chadw’n ddiogel.